8 Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.
9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i'w rwyd.
10 Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.
11 Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.
12 Cyfod, Arglwydd; O Dduw, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol.
13 Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni.
14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â'th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.