1 Canaf am drugaredd a barn: i ti, Arglwydd, y canaf.
2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ.
3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi.
4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus.