11 Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais.
12 Tithau, Arglwydd, a barhei yn dragwyddol, a'th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth.
14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi.
15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.
16 Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant.
17 Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.