16 Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant.
17 Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
18 Hyn a ysgrifennir i'r genhedlaeth a ddêl: a'r bobl a grëir a foliannant yr Arglwydd.
19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr Arglwydd a edrychodd o'r nefoedd ar y ddaear;
20 I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau;
21 I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion, a'i foliant yn Jerwsalem:
22 Pan gasgler y bobl ynghyd, a'r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd.