21 I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion, a'i foliant yn Jerwsalem:
22 Pan gasgler y bobl ynghyd, a'r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd.
23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau.
24 Dywedais, Fy Nuw, na chymer fi ymaith yng nghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.
25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.
26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.
27 Tithau yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni ddarfyddant.