6 Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch.
7 Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ.
8 Fy ngelynion a'm gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.
9 Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain;
10 Oherwydd dy lid di a'th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr.
11 Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais.
12 Tithau, Arglwydd, a barhei yn dragwyddol, a'th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.