1 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.
2 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:
4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi: