12 Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.
13 Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.
14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym.
15 Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.
16 Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a'i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.
17 Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a'i hofnant ef; a'i gyfiawnder i blant eu plant;
18 I'r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i'w gwneuthur.