17 Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a'i hofnant ef; a'i gyfiawnder i blant eu plant;
18 I'r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i'w gwneuthur.
19 Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a'i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth.
20 Bendithiwch yr Arglwydd, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.
21 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd ef; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.
22 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o'i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr Arglwydd.