2 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:
4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:
5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.
6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i'r rhai gorthrymedig oll.
7 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.
8 Trugarog a graslon yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd.