10 Yr hwn a yrr y ffynhonnau i'r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.
11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched.
12 Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.
13 Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o'i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.
14 Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o'r ddaear;
15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i'w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.
16 Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;