27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.
29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i'w llwch.
30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.
31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.
32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â'r mynyddoedd, a hwy a fygant.
33 Canaf i'r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.