3 Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a'i weinidogion yn dân fflamllyd.
5 Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd.
6 Toaist hi â'r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.
7 Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.
8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i'r lle a seiliaist iddynt.
9 Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.