30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.
31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.
32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â'r mynyddoedd, a hwy a fygant.
33 Canaf i'r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.
34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.
35 Darfydded y pechaduriaid o'r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.