1 Parod yw fy nghalon, O Dduw: canaf a chanmolaf â'm gogoniant.
2 Deffro, y nabl a'r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore.
3 Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a'th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.
5 Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;
6 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â'th ddeheulaw, a gwrando fi.