7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
8 Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.
9 Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.
10 Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm dwg hyd yn Edom?
11 Onid tydi, O Dduw, yr hwn a'n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O Dduw, gyda'n lluoedd?
12 Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.
13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.