3 Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn?
4 Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.
5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff ganddo drawster.
6 Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt.
7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.