3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl.
4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a'r bryniau fel ŵyn defaid.
5 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl?
6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a'r bryniau fel ŵyn defaid?
7 Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob:
8 Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a'r gallestr yn ffynnon dyfroedd.