11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.
12 Beth a dalaf i'r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi?
13 Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf.
14 Fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.
15 Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef.
16 O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.
17 Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd.