5 Graslon yw yr Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.
6 Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.
7 Dychwel, O fy enaid, i'th orffwysfa; canys yr Arglwydd fu dda wrthyt.
8 Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro.
9 Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhir y rhai byw.
10 Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.
11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.