122 Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i'r beilchion fy ngorthrymu.
123 Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.
124 Gwna i'th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.
125 Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau.
126 Amser yw i'r Arglwydd weithio: diddymasant dy gyfraith di.
127 Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.
128 Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.