128 Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.
129 Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.
130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.
131 Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i'th orchmynion di.
132 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i'r rhai a garant dy enw.
133 Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.