132 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i'r rhai a garant dy enw.
133 Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.
135 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.
136 Afonydd o ddyfroedd a redant o'm llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.
137 Cyfiawn ydwyt ti, O Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau.
138 Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.