142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a'th gyfraith sydd wirionedd.
143 Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant; a'th orchmynion oedd fy nigrifwch.
144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
145 Llefais â'm holl galon; clyw fi, O Arglwydd: dy ddeddfau a gadwaf.
146 Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.
147 Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais.
148 Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.