148 Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.
149 Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
150 Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.
151 Tithau, Arglwydd, wyt agos; a'th holl orchmynion sydd wirionedd.
152 Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.
153 Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.
154 Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air.