15 Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
16 Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.
17 Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
18 Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di.
19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.
20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farnedigaethau bob amser.
21 Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.