155 Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.
156 Dy drugareddau, Arglwydd, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
157 Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.
158 Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.
159 Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd.
160 Gwirionedd o'r dechreuad yw dy air; a phob un o'th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.
161 Tywysogion a'm herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.