161 Tywysogion a'm herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.
162 Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.
163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a'th gyfraith di a hoffais.
164 Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.
165 Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.
166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O Arglwydd; a gwneuthum dy orchmynion.
167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.