166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O Arglwydd; a gwneuthum dy orchmynion.
167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.
168 Cedwais dy orchmynion a'th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.
169 Nesaed fy ngwaedd o'th flaen, Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.
170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.
171 Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.
172 Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.