173 Bydded dy law i'm cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.
174 Hiraethais, O Arglwydd, am dy iachawdwriaeth; a'th gyfraith yw fy hyfrydwch.
175 Bydded byw fy enaid, fel y'th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.
176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.