18 Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di.
19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.
20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farnedigaethau bob amser.
21 Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.
22 Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.
23 Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i'm herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.
24 A'th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a'm cynghorwyr.