26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.
27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.
29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o'm blaen.
31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na'm gwaradwydda.
32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.