29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o'm blaen.
31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na'm gwaradwydda.
32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.
33 Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.
34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â'm holl galon.
35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.