36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra.
37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.
38 Sicrha dy air i'th was, yr hwn sydd yn ymroddi i'th ofn di.
39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.
40 Wele, awyddus ydwyf i'th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.
41 Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a'th iachawdwriaeth yn ôl dy air.
42 Yna yr atebaf i'm cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.