43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o'm genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.
44 A'th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.
45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.
46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.
47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.
48 A'm dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.
49 Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.