49 Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
50 Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a'm bywhaodd i.
51 Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
52 Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.
53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
54 Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod.
55 Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith.