63 Cyfaill ydwyf fi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchmynion.
64 Llawn yw y ddaear o'th drugaredd, O Arglwydd: dysg i mi dy ddeddfau.
65 Gwnaethost yn dda â'th was, O Arglwydd, yn ôl dy air.
66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.
67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.
69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i'm herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â'm holl galon.