67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.
69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i'm herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â'm holl galon.
70 Cyn frased â'r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.
72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.
73 Dy ddwylo a'm gwnaethant, ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.