7 Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
8 Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.
9 Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
10 A'm holl galon y'th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.
11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn.
12 Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.
13 A'm gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.