77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.
78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.
79 Troer ataf fi y rhai a'th ofnant di, a'r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.
80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na'm cywilyddier.
81 Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.
82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y'm diddeni?
83 Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.