84 Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a'm herlidiant?
85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.
86 Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y'm herlidiasant; cymorth fi.
87 Braidd na'm difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion.
88 Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.
89 Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.
90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.