86 Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y'm herlidiasant; cymorth fi.
87 Braidd na'm difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion.
88 Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.
89 Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.
90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.
91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.
92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.