95 Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i'm difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.
96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.
97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.
98 A'th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na'm gelynion: canys byth y maent gyda mi.
99 Deellais fwy na'm holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
100 Deellais yn well na'r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di.
101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.