97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.
98 A'th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na'm gelynion: canys byth y maent gyda mi.
99 Deellais fwy na'm holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
100 Deellais yn well na'r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di.
101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.
102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a'm dysgaist.
103 Mor felys yw dy eiriau i'm genau! melysach na mêl i'm safn.