2 Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus.
3 Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?
4 Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw.
5 Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar.
6 Hir y trigodd fy enaid gyda'r hwn oedd yn casáu tangnefedd.
7 Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.