3 Ni ad efe i'th droed lithro: ac ni huna dy geidwad.
4 Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel.
5 Yr Arglwydd yw dy geidwad: yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.
6 Ni'th dery yr haul y dydd, na'r lleuad y nos.
7 Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.
8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a'th ddyfodiad, o'r pryd hwn hyd yn dragywydd.