1 Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd.
2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem.
3 Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.
4 Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr Arglwydd.