1 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.
2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a'n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn.
3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.
4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.