3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.
4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.
5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.
6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.