1 Llawer gwaith y'm cystuddiasant o'm hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:
2 Llawer gwaith y'm cystuddiasant o'm hieuenctid: eto ni'm gorfuant.
3 Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.
4 Yr Arglwydd sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.